Mae pedwar cam i'r broses recriwtio. Mae'r tri cyntaf yn ffurfio rhan genedlaethol y broses ac yn cynnwys ffurflen gais, cyfweliad rownd–gyntaf a chanolfan asesu. Ymhob un o'r camau hyn byddwn yn eich asesu chi yn erbyn chwe dimensiwn asesu wedi eu dilysu, cyfuniad o sgiliau a medrau sy'n arwain at berfformiad effeithiol iawn ar y Rhaglen Genedlaethol Datblygu Graddedigion.
Gweithio'n sensitif gydag eraill gan ddod â chryfderau a medrau pobl at ei gilydd i gyflawni nod neu bwrpas cyffredin.
Gallu i weithredu ar eich liwt eich hunan a chymryd cyfrifoldeb dros benderfyniadau sy'n cael canlyniadau. Mae'n rhaid ichi hefyd ddangos cadernid wrth anelu at nodau, a bod yn barod i herio'r status quo er mwyn cyflwyno gwelliannau.
Gallu rheoli amser a blaenoriaethu'n effeithiol i gyrraedd amcanion a chyflawni gwaith o fewn terfynau amser tynn.
Cyfathrebu a thrafod yn llwyddiannus a chyda hyder (ar lafar ac yn ysgrifenedig), gan addasu'r arddull gyfathrebu ar gyfer y gynulleidfa.
Adnabod, dadansoddi a dehongli gwybodaeth berthnasol o nifer o ffynonellau er mwyn datblygu datrysiadau gwybodus.
Chwilio'n rhagweithiol am gyfleoedd i ddatblygu'n bersonol. Anelu at ddysgu o bob profiad newydd a defnyddio'r wybodaeth newydd a sgiliau mewn gwahanol sefyllfaoedd.
Byddwn hefyd yn chwilio am eich diddordeb mewn gweithio yn y sector llywodraeth leol.
Os byddwch yn llwyddiannus yn y ganolfan asesu, cewch eich ystyried ar gyfer hyd at dri chyfweliad gydag awdurdodau lleol cyfrannol. Bydd y cyfweliadau hyn yn sicrhau eich bod yn addas ar gyfer anghenion penodol yr awdurdodau hynny.
Rydym yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd ar gyfer y ddau dderbyniad nesaf o hyfforddeion newydd i ymuno â'r Rhaglen Genedlaethol Graddedigion Cenedlaethol. Bydd y rhaglen yn dechrau ym mis Medi 2007. Bydd angen cyflwyno'ch ffurflen gais wedi'i chwblhau ddim hwyrach na'r 5ed Ionawr er mwyn ymuno ym mis Medi.
Cynhelir y cyfweliadau mewn canolfannau asesu yn Llundain. Byddwn yn ad–dalu costau teithio rhesymol hyd at £50, felly, os gwahoddir chi i gymryd rhan yn y broses recriwtio, dylech gadw eich derbynebau'n ddiogel.
Os ydych wedi ymgeisio am y rhaglen o'r blaen, mae croeso ichi ymgeisio eto cyn belled nad ydych wedi mynychu un o'r canolfannau asesu o'r blaen a'ch bod yn dal i gydymffurfio â'r gofynion mynediad.
Amlinellir isod pa bryd y cynhelir y gweithgaredd recriwtio.
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y rhaglen dylech fod wedi graddio, naill ai'n israddedig neu ôl raddedig, mewn unrhyw ddisgyblaeth. Dylech fod yn disgwyl gradd 2.1 neu wedi cael gradd 2.1 a dylech fod yn gymwys i weithio yn y DU heb drwydded.