• Jump to home page [Accesskey '1']
  • Jump to Content [Accesskey 's']
  • Jump to Navigation [Accesskey 'n']
  • Jump to Sitemap [Accesskey 'm']
  • Contact us[Accesskey 'c']
  • Jump to Accessibility Statement [Accesskey '0']

  • Welcome
  • Welsh
  • Cwestiynau a ofynnir yn aml
National Graduate Development Programme - Real life. Real Work. Graduate Opportunities.

  • Home
  • What is ngdp?
  • Working in local government
  • People
  • How to Join
  • Apply
  • FAQs
  • Welsh


  • Hafan
  • Cwestiynau a ofynnir yn aml
  • Calendr digwyddiadau
  • Ceisio am lawlyfr
  • Cysylltiadau
  • Map Safle
  • Beth yw'r Rhaglen Genedlaethol Datblygu Graddedigion?
  • Pam fod Rhaglen Genedlaethol Datblygu Graddedigion yn bodoli?
  • Gweithio mewn llywodraeth leol
  • Awdurdodau cyfrannol
  • Ffeithiau a ffigurau
  • Amgylchedd gwaith
  • Sut i ymuno
  • Apply online
 

Cwestiynau a ofynnir yn aml

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill ynghylch eich cais, e–bostiwch nhw at email enquiry@ngdp.com, neu ffoniwch 0845 222 0250

C: Deallaf mai rhaglen ddatblygu ddwy flynedd yw hon, beth sy'n digwydd ar ddiwedd y ddwy flynedd?

A: Gobeithiwn y bydd eich gallu a'ch datblygiad yn sicrhau y bydd ar yr awdurdod lleol lle buoch yn gweithio'n cynnig gwaith i chi ar ddiwedd y rhaglen, ond gall hyn ddibynnu ar faint o swyddi gwag sydd ar gael yr adeg hynny. Byddem yn disgwyl ichi ddechrau meddwl am chwilio am swydd yn ystod yr ail flwyddyn ac i wneud hyn efallai y byddwch am ddefnyddio'r mentor allanol a benodir ichi yn ystod y rhaglen.

Q: Rwyn anabl, allaf i wneud cais?

A: Wrth gwrs. Os oes gennych unrhyw anghenion arbennig neu eich bod yn cael anhawster ymgeisio oherwydd anabledd, gallwn gymryd eich manylion a'u rhoi i un o aelodau'r tîm recriwtio graddedigion. Byddant yn gallu trafod eich anghenion yn fanylach ond gallwch fod yn sicr na fydd hyn yn effeithio ar eich cais mewn unrhyw fodd.

Q: Ydych chi'n talu costau adleoli?

A: Bydd hyn yn dibynnu ar y pecyn budd–daliadau a gynigir gan awdurdodau unigol - mae rhai'n gwneud ac eraill ddim.

Q: Sut gallaf i gael gwybodaeth am gyfleoedd gyrfa eraill i raddedigion?

A: Cewch hynny ar yr adran cysylltiadau defnyddiol.

Q: Beth sy'n digwydd os byddaf yn aflwyddiannus yn y cyfweliad neu'r ganolfan asesu?

A: Byddwn yn cynnig adborth ichi a byddwn hefyd yn rhoi cyfle ichi gofrestru eich manylion ar ddata–bas Cyfleoedd i Raddedigion mewn Llywodraeth Leol (Graduate Opportunities into Local Government – GOLD). Bydd hwn yn cael ei farchnata i bob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr sy'n defnyddio peiriant chwilio i gael eich manylion ar gyfer unrhyw swyddi gwag addas a fyddai'n gymwys ar gyfer ymgeisydd graddedig.

Q: Ble byddaf yn gweithio?

A: Gyda dros 400 o awdurdodau ledled Cymru a Lloegr, byddwn yn disgwyl ichi fod yn hyblyg ynghylch lle y byddwch yn gweithio. Byddwn, fodd bynnag, yn rhoi ystyriaeth i unrhyw amgylchiadau arbennig, ble bynnag posibl.


  • Request a brochure |
  • Links |
  • Accessibility |
  • Sitemap