• Jump to home page [Accesskey '1']
  • Jump to Content [Accesskey 's']
  • Jump to Navigation [Accesskey 'n']
  • Jump to Sitemap [Accesskey 'm']
  • Contact us[Accesskey 'c']
  • Jump to Accessibility Statement [Accesskey '0']

  • Welcome
  • Welsh
  • Amgylchedd gwaith
National Graduate Development Programme - Real life. Real Work. Graduate Opportunities.

  • Home
  • What is ngdp?
  • Working in local government
  • People
  • How to Join
  • Apply
  • FAQs
  • Welsh


  • Hafan
  • Cwestiynau a ofynnir yn aml
  • Calendr digwyddiadau
  • Ceisio am lawlyfr
  • Cysylltiadau
  • Map Safle
  • Beth yw'r Rhaglen Genedlaethol Datblygu Graddedigion?
  • Pam fod Rhaglen Genedlaethol Datblygu Graddedigion yn bodoli?
  • Gweithio mewn llywodraeth leol
  • Awdurdodau cyfrannol
  • Ffeithiau a ffigurau
  • Amgylchedd gwaith
  • Sut i ymuno
  • Apply online
 

Amgylchedd gwaith

I rai, y ddelwedd barhaol o lywodraeth leol yw biwrocratiaeth sy´n ddiflas ond yn deilwng, ond mae´r sector mewn gwirionedd yn esblygu ac yn datblygu´n gyflym. Digwyddodd llawer o´r newid hwn oherwydd moderneiddio ac agendâu gwella gan y llywodraeth ganolog. Mae´r rhain wedi newid natur ac wedi newid sgÔp y gwasanaethau a ddarperir gan lywodraeth leol, a´r ffordd y mae awdurdodau lleol eu hunain yn gweithredu fel cyrff.

Mae llawer o´r datblygiadau yn deillio o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 a´r Papurau Gwyn cysylltiedig, a roes agenda ddiwygio eang ar waith. Mae agweddau´r moderneiddio hwn yn cynnwys: disodli´r Broses Dendro Gystadleuol Orfodol gydag adolygiadau Gwerth Gorau; gosod y rhaglen Asesu Perfformiad Cynhwysfawr i fonitro a mesur gweithgaredd; sefydlu strwythurau gwaith newydd er mwyn gwella arweiniad gwleidyddol a rheolaethol; a llunio´r strategaeth e–lywodraeth, a oedd yn anelu at sicrhau bod yr holl wasanaethau cyhoeddus ar gael ar ffurf electronig erbyn 2005.

Mae´r Llywodraeth yn dal i edrych ar rÔl a sefyllfa llywodraeth leol yn y dyfodol ar gyfer hybu mentrau a gwasanaethau ymatebol. Yn 2004 cynhyrchodd Swyddfa´r Dirprwy Brif Weinidog gynllun deng mlynedd o dan yr enw gweledigaeth:leol, dogfen y bwriadwyd iddi danio´r ddadl hon, a chyfrannu tuag at ddealltwriaeth gyffredin rhwng awdurdodau lleol o´r hyn y dylid ei wneud i wireddu´r weledigaeth hirdymor.

Bellach, adolygir y moderneiddio a gafwyd yn gynharach, ac mae diwygiadau pellach ar y gweill. Mae´r pwyslais ar weithio mewn partneriaeth yn tyfu, boed fel partneriaethau cyhoeddus preifat neu fel mentrau cyllid preifat, fel contractau gyda´r sector gwirfoddol a chymunedol i gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus, neu fel rhanddeiliaid lleol sy´n ffurfio aelodaeth y partneriaethau strategol lleol.

Mae´r Llywodraeth ganolog hefyd yn ceisio cydweithredu mwy gyda´r awdurdodau lleol er mwyn mesur perfformiad a´i wella, trafod mwy o ryddid a hyblygrwydd drwy ddefnyddio ´ail genhedlaeth´ o Gytundebau Gwasanaeth Cyhoeddus Lleol, ac, i rai cynghorau, y fframweithiau Cytundeb Ardal Leol.

Daeth y geiriau ´adnewyddu democrataidd´ a ´bod yn lleol o´r newydd´ yn eiriau bachog poblogaidd wrth ddarparu gwasanaeth cyhoeddus, gydag arbrofion ar gynyddu cyfranogiad pobl leol yn y dull y caiff eu gwasanaethau eu rhedeg, drwy nid yn unig ymgynghori â dinasyddion a´u hysbysu o´r hyn sy´n digwydd yn eu hardal, ond hefyd drwy gynnig y cyfle iddyn nhw gymryd rhan a gwneud penderfyniadau. Mae gofyn i´r cynghorau feddwl sut orau i gynrychioli eu hardaloedd lleol, efallai drwy ddefnyddio´r cyrff wedi´u datganoli ar gyfer gwneud penderfyniadau, drwy gynyddu pleidlais a chyfranogiad pobl ifanc yn y broses ddemocrataidd, neu drwy sefydlu system o ethol maer.

Yr elfen allweddol derfynol yn y drafodaeth ar hyn o bryd mewn llywodraeth leol yw sefydlu gwasanaethau i'r cyhoedd sy'n syml ac yn effeithiol, a adnabyddir yn gyffredinol fel darparu ‘effeithiolrwydd Gershon’, yn dilyn adolygiad Sir Peter Gershon o effeithiolrwydd y sector cyhoeddus. Mae llawer o'r hyn a wneir i gynyddu lefelau e-fusnes a thrawsnewid gwasanaethau yn anelu at ddarparu'r arbedion ar gyfer hyn. Mae cynghorau'n blaenoriaethu, yn newid y ffordd y maent yn darparu'r gwasanaethau sy'n wynebu cwsmer er mwyn ei gwneud yn haws i'w defnyddio ac yn eu a'u teilwra ar gyfer anghenion eu trigolion a defnyddwyr y gwasanaethau.

Mae´r cyfleoedd a geir yn sector llywodraeth leol yn enfawr. Nid yn unig mae cynghorau yn awyddus i ddod o hyd i unigolion hyblyg a dyfeisgar a fydd yn croesawu ac yn creu newidiadau, ond mae´r rhai a gyflogir hefyd yn gweld bod llywodraeth leol yn brofiad gwaith rhagorol a gwerth chweil. Mae´r ymroddiad i amrywiaeth, o ran darparu ar gyfer preswylwyr ac o ran cynnig cyfleoedd cyfartal i aelodau staff, yn enghreifftiau gwirioneddol o´r symud tuag at amgylchedd gwaith modern ac amlbwrpas. Mae pwyslais cadarn ar gefnogi anghenion datblygu, proffesiynol a phersonol staff, gyda´r cyfleoedd i weithio´n fwy hyblyg, boed drwy oriau hyblyg, gweithio gartref neu weithio´n rhan amser. Mae, felly, lawer o fuddiannau ac agweddau sy´n gwneud awdurdodau lleol yn lleoedd cyffrous a gwerth chweil i weithio ynddynt.


  • Request a brochure |
  • Links |
  • Accessibility |
  • Sitemap